Weld mwy o bobl Cymru yn cael y cyfle i gychwyn rhedeg?
Rydym yn recriwtio aelodau gwirfoddol newydd i ymuno â’n Grŵp Ymgynghorol, ble byddwch chi yn;
- cefnogi’r rhaglen i gyflawni ei hamcanion hirdymor o sicrhau fwy o gyfleoedd i bobl ledled Cymru fod yn fwy actif trwy redeg.
- cefnogi datblygiadau strategol y rhaglen i gynyddu cyfranogiad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis; BME, LGBT ac Iechyd Meddwl yng ngweithgareddau rhedeg cymdeithasol.
- rhannu profiadau a dod â syniadau newydd i’r bwrdd.
- Herio prosesau a ffyrdd o weithio.
- eirioli a lobïo ar ran y rhaglen gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- creu partneriaethau a rhwydweithiau newydd.
- cymryd rhan mewn 4 cyfarfod grŵp blynyddol a rhai digwyddiadau allweddol ychwanegol
Os hoffech chi drafod y cyfle ymhellach, mae croeso i chi gysylltu a ni ar y rhif ffon isod, neu os hoffech chi fynegi diddordeb drwy anofn CV a chrynodeb byr o pam yr hoffech fod yn rhan o’r grŵp, i;
Sioned Jones
Run Wales Programme Manager
Welsh Athletics, Cardiff International Sports Stadium, Cardiff,
CF11 8AZ.
sioned.jones@runwales.org.uk